Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mercher, 3
Mai 2023
Amser y
cyfarfod: 13.30
------
Cynhelir y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.
1 Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd
(45 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Gweinidog ar ôl Cwestiwn 2.
2 Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg
(45 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Gweinidog ar ôl Cwestiwn 2.
3 Cwestiynau Amserol
(0 munud)
Ni dderbyniwyd unrhyw Gwestiynau Amserol
4 Datganiadau 90 Eiliad
(5 munud)
5 Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Cysylltu'r dotiau: Mynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd meddwl yng Nghymru
(60 munud)
NDM8249 Russell George (Sir Drefaldwyn)
Cynnig bod y Senedd:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ‘Cysylltu'r dotiau: Mynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd meddwl yng Nghymru’, a osodwyd ar 19 Rhagfyr 2022.
Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 25 Ebrill 2023.
Dogfennau ategol
6 Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd, a Seilwaith - Datgarboneiddio’r sector tai preifat
(60 munud)
NDM8248 Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru)
Cynnig bod y Senedd:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith: ‘Datgarboneiddio’r sector tai preifat’, a osodwyd ar 28 Chwefror 2023.
Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 25 Ebrill 2023.
7 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Y Coroni
(60 munud)
NDM8250 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn estyn ei dymuniadau gorau i'w Fawrhydi'r Brenin ac Ei Mawrhydi'r Frenhines Gydweddog ar ddigwyddiad eu coroni.
8 Cyfnod Pleidleisio
9 Dadl Fer
(30 munud)
NDM8247 Carolyn Thomas (Gogledd Cymru)
Buddsoddi mewn cynnal a chadw priffyrdd: y llwybr at rwydwaith ffyrdd gwydn
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Senedd am 13.30, Dydd Mawrth, 9 Mai 2023